Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Cyfle i helpu wrth lunio'r dyfodol gan gymryd rôl weithredol yn arwain tîm bychan ond ymroddedig o Geidwaid Parciau Cymunedol i reoli a hyrwyddo'r amgylchedd naturiol yn ein rhwydwaith mannau gwyrdd cyhoeddus.

 

Yn aelod o dîm deinamig, gan adrodd i'r Rheolwr Cadwraeth a Datblygu Cymunedol byddwch yn ymgysylltu â chymunedau a gwirfoddolwyr lleol i gefnogi'r gwaith o hyrwyddo a rheoli'r amgylchedd naturiol o fewn parciau a mannau agored, gwarchodfeydd natur a choetiroedd a gweithio gyda sefydliadau partner i gynnal gweithgareddau amgylcheddol awyr agored sy'n canolbwyntio ar y gymuned.

Am Y Swydd

Bydd y swydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Gadwraeth Fferm y Fforest, ond bydd yn cynnwys gweithio ar draws y ddinas. 

 

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Bydd angen i chi gael trwydded yrru lawn.  

 

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

 

Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant, yn hyblyg a gallu addasu mewn rôl heriol lle gall blaenoriaethau newid yn gyflym. Bydd angen arnoch brofiad o weithio mewn maes amgylcheddol mewn amgylchedd awyr agored. Bydd angen i chi fod yn hyderus wrth ymgysylltu â phobl o ystod eang o gefndiroedd a gallu arwain digwyddiadau, addysg amgylcheddol a gweithgareddau cadwraeth eraill ym mhob tywydd.

 

Bydd gennych hefyd sgiliau trefnu rhagorol, a’r gallu i gyfathrebu â phobl ar bob lefel. Rhaid i chi allu defnyddio TG yn hyderus. Yn bennaf oll, rhaid i chi fod ag agwedd gadarnhaol, gallu datrys problemau gan ddefnyddio eich blaengaredd eich hun, a gallu cychwyn a blaenoriaethu eich gwaith i ymateb i ofynion y tîm.   

Gwybodaeth Ychwanegol

O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses cyfweliad rhithwir neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd amrywiol a gwerth chweil hon cysylltwch â Nicola Hutchinson, Rheolwr Cadwraeth ac Ymgysylltu â'r Gymuned ar 02920445903 neu 07976011878.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau